Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i dudalennau gwefan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol a gynhelir dan www.professionalstandards.org.uk.
Mae’r wefan yn cael ei rhedeg gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
-
closio i mewn hyd at 300% heb i destun lifo oddi ar y sgrin
-
·lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
-
·lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
-
wrando ar y rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Fe wyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
-
Nid yw rhai eitemau llywio ar y bysellfwrdd yn hygyrch i'r bysellfwrdd neu nid oes ganddynt ffocws clir pan fyddant yn cael eu dewis
-
Nid oes gan rai elfennau acordion y gellir eu hehangu labeli neu rolau ychwanegol
-
Pan rennir canlyniadau yn dudalennau wedi'u rhifo , nid oes gan y rhifau destun dolen ychwanegol
-
Nid oes gan rai delweddau fel ein map Cysylltwch â Ni deitl dynodedig
-
Mae gan rai elfennau ffurflen fel cwymplenni gyferbyniad lliw is neu nid oes labeli ychwanegol arnynt i'w pwrpas
-
Efallai na fydd gan dudalennau o gwmpas y safle ardaloedd 'pennawd' a 'throedyn' clir
-
Nid yw penawdau mewn rhai rhannau o'r wefan mewn trefn ddisgynnol lawn neu mae ganddynt gyferbyniad lliw is
-
Mae lliw testun dilysu ffurflen yn arddangos fel testun arferol neu labeli maes
-
Nid yw rhai rhestrau megis ar gyfer cwynion wedi'u cynnwys o fewn tagiau 'rhestr' dynodedig ar gyfer technolegau cynorthwyol
-
Nid oes gan fideo a ddefnyddir i ddisgrifio'r offeryn 'Gwirio Ymarferydd' unrhyw sain na thrawsgrifiad
-
Dim botwm saib ar gyfer sleid animeiddio o dan 'Ein gwaith gyda rheolyddion’
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ateb, fel arfer, o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch neu e-bostiwch ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt (https://www.professionalstandards.org.uk/contact-us) am gyfarwyddiadau.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydyn ni'n gobeithio gwella hygyrchedd y wefan ar bob cyfle. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir yn yr adran uchod.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus gyda sut ydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, gyda nam ar eu clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dysgwch sut i gysylltu â ni yma (https://www.professionalstandards.org.uk/contact-us)
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn ymroddedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiad
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiad ac eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad yma ar 28 Hydref 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 3 Chwefror 2022.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ar 23 Medi 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Appius, asiantaeth datblygu gwe a digidol.
Penderfynasom brofi sampl o dudalennau yn seiliedig ar nifer yr ymwelwyr â'r wefan a'r gwahanol fathau o swyddogaethau a ddefnyddir ar draws y wefan.