Rydym yn helpu amddiffyn y cyhoedd trwy ein gwaith gyda sefydliadau sy'n cofrestru a rheoleiddio pobl sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn annibynnol ac yn atebol i Senedd y Deyrnas Unedig. Mae ein hadroddiadau yn helpu'r Senedd i fonitro a gwella amddiffyn y cyhoedd. Mae'r Pwyllgor Iechyd yn defnyddio ein hadroddiadau adolygiad perfformiad i gwestiynu'r rheolyddion a oruchwylir gennym ynghylch eu gwaith. Rydym hefyd yn annog sefydliadau i wella sut maent yn cofrestru a rheoleiddio ymarferwyr iechyd a gofal yn y Deyrnas Unedig.
Mae ein gwerthoedd yn ganolog i bopeth a wnawn
Rydym yn ymroddedig i fod yn annibynnol, teg, cyson, cymesur ac yn canolbwyntio ar ddiogelu’r cyhoedd.