Amodau a thelerau ar gyfer defnyddio'r wefan hon
Mae'r wefan yn eiddo i'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yr Awdurdod). Trwy ddefnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno i dderbyn yr amodau a thelerau canlynol. Gan y gellir diweddaru'r amodau a thelerau hyn o bryd i'w gilydd, dylech wirio'n rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r fersiwn gyfredol ddiweddaraf.
Defnyddio ein safle
Mae ein gwefan yn cael ei chynnal at eich defnydd chi’n bersonol ac i chi ei gweld. Trwy gysylltu â’r safle a’i ddefnyddio rydych yn derbyn ein Hamodau a Thelerau, sy'n effeithiol o'r dyddiad cyntaf pan y'i defnyddir.
Ymwadiad
Mae'r Awdurdod yn gwadu unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod yn deillio o (naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) fynediad at ac/neu ddefnydd o'r wefan hon, neu unrhyw ddefnydd o wybodaeth a deunyddiau a gynhwysir arni neu mewn unrhyw wefan a gysylltwyd.
Cywirdeb
Er ein bod wedi cymryd pob cam rhesymol i'ch darparu â mynediad i gynnwys addas a dibynadwy, nid ydym yn ymhonni dim ynghylch cywirdeb unrhyw wybodaeth a gynhwysir ar safleoedd y rhoddir dolen iddynt.
Dolenni
Nid yw'r Awdurdod yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau allanol. Ni ddylid ystyried bod dolen yn ardystiad, gwarant na chynrychiolaeth gan yr Awdurdod o ansawdd na chywirdeb yr wybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau a ddarperir i chi. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ar bob adeg ac nid oes gennym reolaeth ar argaeledd tudalennau cysylltiedig. Noder nad yw'r Awdurdod yn gyfrifol am arferion gwefannau eraill.
Diogelu rhag firysau
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir o'r Rhyngrwyd.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd a ddaw o'r wefan hon.
Datganiad Hawlfraint
Am wybodaeth am atgynhyrchu'r deunydd ar ein gwefan ac am ddefnyddio ein logos corfforaethol a Chofrestrau Achrededig, gweler ein datganiad hawlfraint.