Rhannwch eich profiad i helpu diogelu’r cyhoedd
Mae gwrando ar eich profiadau gyda rheolydd neu gofrestr achrededig yn ein helpu i ddeall pa mor dda maent yn diogelu'r cyhoedd. Mae'n ein helpu i benderfynu os yw'r rheolyddion yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da neu os yw cofrestrau achrededig yn bodloni ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig.
Pan fyddwch yn adolygu eu perfformiad pob blwyddyn, byddwn yn ystyried sawl math o wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys pethau mae'r sefydliadau hyn yn eu dweud wrthym, pethau y byddwn yn arsylwi neu ddarllen a phethau y byddwch chi ac eraill yn dweud wrthym. Mae'n ein helpu i greu darlun cyffredinol o'u perfformiad.
Rydym yn cyhoeddi adroddiad ynghylch perfformiad pob sefydliad pob blwyddyn a byddwn yn hapus i anfon copi atoch os hoffech. Efallai na fyddwn yn crybwyll eich gwybodaeth yn yr adroddiad, ond gallwch fod yn hyderus ein bod yn ei hystyried.
Sylwer NAD yw hyn yn broses gwynion. Nid ydym yn ymchwilio i gwynion unigolion ynghylch rheolyddion na chofrestrau ac ni allwn eu datrys ar eich rhan, ond gallwch helpu eraill trwy rannu eich profiad.