Chwiliwch am gofrestrau yma
Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi chwilio am ymarferwyr iechyd a gofal trwy roi mynediad i'r holl gofrestrau i chi yma. Gallwch nawr ddefnyddio ein gwefan i wirio cofrestriad ymarferwyr iechyd neu ofal mewn sawl gwahanol alwedigaeth. Gwasgwch y botymau isod.
Mae gwaith rhai ymarferwyr fel eich meddyg teulu ac unrhyw feddyg arall, nyrsys, fferyllwyr neu weithwyr cymdeithasol oll wedi eu ‘rheoleiddio’. Mae hyn yn golygu bod yn rhai iddynt fod ar gofrestr benodol yn ôl y gyfraith. Er enghraifft, mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cofrestru meddygon. Mae ymarferwyr iechyd a gofal eraill yn dewis ymuno â chofrestr achrededig, er nad oes rhaid iddynt, i ddangos eu hymroddiad i roi gofal da i chi.
Rydym yn argymell eich bod yn dewis ymarferwyr sydd naill ai ar wedi eu rheoleiddio neu ar gofrestrau achrededig. Gallwch weld sut i wirio cofrestriad yma. Defnyddiwch ein rhestr ar y dde i weld pwy sydd wedi eu rheoleiddio.