Skip to main content

Chwilio am gofrestr achrededig

  • Academy for Healthcare Science

    Mae’r Academy for Healthcare Science yn gorff mantell ar gyfer y Proffesiwn Gwyddorau Gofal Iechyd cyfan, gan weithio i sicrhau y cydnabyddir Gwyddor Gofal Iechyd a’i barchu fel un o’r proffesiynau clinigol allweddol yn y system iechyd a gofal.

    Search Register | Read more

  • Alliance of Private Sector Practitioners

    Mae’r Gynghrair yn hyrwyddo ymarferwyr iechyd traed sy’n gweithio yn y sector preifat ac yn cefnogi cyflawniad diogel gwasanaeth i’r cyhoedd trwy gofrestriad achrededig, addysg a gwella sgiliau.

    Search Register | Read more

  • Association of Child Psychotherapists

    Mae'r Gymdeithas Seicotherapyddion Plant (ACP) yn gorff proffesiynol ar gyfer seicotherapyddion plant a glasoed seicdreiddiad yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ACP yn gyfrifol am safonau hyfforddi ac ymarfer ar gyfer ei aelodau ac mae’n darparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynghylch seicotherapi plant.

    Search Register | Read more

  • Association of Christian Counsellors

    Mae'r Cymdeithas Cynghorwyr Cristnogol (ACC) yn gorff proffesiynol ac elusen gofrestredig yn cynrychioli cynghorwyr a seicotherapyddion Cristnogol yn y Deyrnas Unedig.

    Search Register | Read more

  • British Acupuncture Council

    Mae Cyngor Aciwbigo Prydain (BAcC) yn gorff hunanreoleiddiol ar gyfer ymarfer aciwbigo traddodiadol yn y Deyrnas Unedig.

    Search Register | Read more

  • British Association for Counselling & Psychotherapy

    Mae Cymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) yn sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n gosod safonau ar gyfer ymarfer therapiwtig ac yn darparu gwybodaeth i therapyddion, cleientiaid therapi, a’r cyhoedd.

    Search Register | Read more

  • British Association of Play Therapists

    Mae'r Cymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain (BAPT) yn gweithio i liniaru anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef anawsterau emosiynol ac ymddygiadol trwy hyrwyddo celf a gwyddor Therapi Chwarae a hyrwyddo safonau uchel o ran ymarfer Therapi Chwarae.

    Search Register | Read more

  • British Association of Sport Rehabilitators and Trainers

    Mae Cymdeithas Adferwyr a Hyfforddwyr Chwaraeon Prydain (BASRaT) yn cofrestru ymarferwyr sy'n gweithio ym maes ataliad, triniaeth ac adsefydlu o anafiadau yn gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer.

    Search Register | Read more

  • British Psychoanalytic Council

    Mae Cyngor Seicdreiddiad Prydain yn sefydliad proffesiynol i’r proffesiwn seicotherapi seicdreiddiad, gan gyhoeddi Cofrestr o ymarferwyr y mae’n ofynnol iddynt ddilyn ei god moeseg a bodloni ei safonau addasrwydd i ymarfer.

    Search Register | Read more

  • Complementary and Natural Healthcare Council

    Mae’r Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC) yn cofrestru ymarferwyr gofal iechyd cyflenwol. Fe’i sefydlwyd gyda chyllid a chefnogaeth gan yr Adran Iechyd a’u prif ddiben yw diogelu’r cyhoedd.

    Search Register | Read more

  • COSCA (Counselling & Psychotherapy in Scotland)

    Mae COSCA – corff proffesiynol yr Alban ar gyfer cynghori a seicotherapi – yn gosod safonau ar gyfer ei gofrestryddion ar ymarfer cynghori a seicotherapi ac mae’n ymroddedig i gynyddu mynediad at wasanaethau cynghori a seicotherapi.

    Search Register | Read more

  • Federation of Holistic Therapists

    Mae’r Ffederasiwn y Therapyddion Holistaidd yn gymdeithas broffesiynol sy’n cynnal cofrestr therapyddion gofal iechyd cyflenwol ar gyfer therapyddion cymwysedig, proffesiynol gydag yswiriant.

    Search Register | Read more

  • Human Givens Institute

    Mae'r Human Givens Institute yn sefydliad byd eang sy'n ymwneud ag uno'r dulliau mwyaf effeithiol o gynghori a seicotherapi i ymagwedd wirioneddol bioseicogymdeithasol. Mae'n annog pob agwedd o ymarfer therapiwtig Human Givens, gan gynnwys safonau, datblygiad proffesiynol parhaus ac ymddygiad moesegol aelodau.

    Search Register | Read more

  • Joint Council for Cosmetic Practitioners

    Mae’r Cyngor ar y Cyd ar gyfer Ymarferwyr Cosmetig (JCCP) wedi ei sefydlu i gynorthwyo'r cyhoedd sy'n chwilio am/ystyried neu’n derbyn triniaethau nad ydynt yn llawfeddygol ac i adfer gwallt (Pigiadau, Llanwyddion, Laserau, Pilio ac Adfer Gwallt) gyda chyngor ar faterion diogelwch cleifion a sut i gael mynediad at gofrestrau ymarferwyr cymeradwy.

    Search Register | Read more

  • National Counselling Society

    Mae’r Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol yn sefydliad proffesiynol dielw gyda’r diben o sicrhau bod pob cofrestrydd yn ddiogel, cymwys a moesegol.

    Search Register | Read more

  • National Hypnotherapy Society

    Mae’r Gymdeithas Hypnotherapi Genedlaethol yn sefydliad proffesiynol dielw gyda’r diben o sicrhau bod pob cofrestrydd yn ddiogel, cymwys a moesegol.

    Search Register | Read more

  • Play Therapy UK

    Mae Play Therapy UK yn bodoli i hybu arfer da gwaith therapiwtig gyda phlant. Mae hyn yn cynnwys gwella lles plant yn ogystal â lliniaru problemau ymddygiadol ac iechyd meddwl.

    Search Register | Read more

  • Register of Clinical Technologists

    Mae Cofrestr y Technolegwyr Clinigol (RCT) yn gofrestr o wyddonwyr gofal iechyd sy'n ymwneud â gweithrediad ymarferol ffiseg, peirianneg a thechnoleg mewn ymarfer clinigol. Mae technolegwyr clinigol yn gweithio yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), gofal iechyd preifat, sefydliadau academaidd a’r diwydiant dyfeisiau meddygol.

    Search Register | Read more

  • Registration Council for Clinical Physiologists

    Mae’r Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisioleg Glinigol (RCCP) yn gofrestr trosfwaol ar gyfer nifer o broffesiynau ffisioleg glinigol yn gweithio mewn gofal iechyd ar draws y Deyrnas Unedig.

    Search Register | Read more

  • Save Face

    Mae Save Face yn gweithredu cofrestr i feddygon, nyrsys a deintyddion sy'n darparu triniaethau cosmetig heb fod yn llawfeddygol. Maent yn gweithio mewn clinigau sydd wedi eu harchwilio a gwirio i fodloni safonau Save Face.

    Search Register | Read more

  • UK Association for Humanistic Psychology Practitioners

    Mae Cymdeithas Ymarferwyr Seicoleg Ddyneiddiol y Deyrnas Unedig (UKAHPP) yn sefydliad proffesiynol, sy'n sefydlu safonau gofrestru ac achredu ar gyfer ymarfer i Seicotherapyddion a Chynghorwyr Seicotherapiwtig gyda hyfforddiant mewn Seicoleg Ddyneiddiol, ymagwedd holistig i therapi, ble mae gallu unigolyn i ddefnyddio adnoddau mewnol i roi ystyr a chyfeiriad i brofiadau bywyd sy'n drawmatig ac yn anablu yn ganolog.

    Search Register | Read more

  • UK Board of Healthcare Chaplaincy

    Mae Bwrdd Caplaniaeth Gofal Iechyd y Deyrnas Unedig (UKBHC) yn cadw Cofrestr wirfoddol o gaplaniaid gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn ymdrechu i hyrwyddo hyder y cyhoedd a chyflogwyr mewn caplaniaeth gofal iechyd ac i ddatblygu safonau ymarfer proffesiynol.

    Search Register | Read more

  • UK Council for Psychotherapy

    Mae Cyngor Seicotherapi'r Deyrnas Unedig (UKCP) yn sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n cadw cofrestrau cenedlaethol ar gyfer seicotherapyddion sy’n gymwysedig i weithio gyda phlant a phobl ifanc a chynghorwyr seicotherapiwtig.

    Search Register | Read more

  • UK Public Health Register

    Mae Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn gweithredu cofrestr wirfoddol ar gyfer arbenigwyr ac ymarferwyr yn gweithio mewn iechyd cyhoeddus. Mae’n cynnal a sicrhau’r safonau proffesiynol ar gyfer cymhwyster sy’n ofynnol i weithio yn y maes hwn.

    Search Register | Read more