Skip to main content

UK Association for Humanistic Psychology Practitioners

Ewch i wefan: https://ahpp.org.uk


Mae Cymdeithas Ymarferwyr Seicoleg Ddyneiddiol y Deyrnas Unedig (UKAHPP) yn sefydliad proffesiynol, sy'n sefydlu safonau gofrestru ac achredu ar gyfer ymarfer i Seicotherapyddion a Chynghorwyr Seicotherapiwtig gyda hyfforddiant mewn Seicoleg Ddyneiddiol, ymagwedd holistig i therapi, ble mae gallu unigolyn i ddefnyddio adnoddau mewnol i roi ystyr a chyfeiriad i brofiadau bywyd sy'n drawmatig ac yn anablu yn ganolog.

Nododd y Panel Achredu’r Amodau canlynol i'w gweithredu erbyn y cyfnodau amser a ddynodwyd:

  1. Rhaid i UKAHPP ddiweddaru ei fatrics risg i gynnwys yr holl risgiau yn fwy, megis cynghori o bell, a phob lliniariad, megis hyfforddiant, DPP perthnasol ac ymlyniad i Godau Ymddygiad. Dylid cwblhau hyn erbyn 7 Chwefror 2019
  2. Rhaid i UKAHPP ddatblygu prosesau sicrwydd ansawdd i sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus yn gywir. Dylid cwblhau hyn erbyn 7 Chwefror 2019
  3. Rhaid i'r UKAHPP adolygu geiriad ac ymarferoldeb y Weithdrefn Gwyno a’r Weithdrefn Ddisgyblu i sicrhau ei bod yn glir pa broses i ddefnyddio a phryd. Mae hyn i’w gwblhau a’i anfon at y tîm Achredu erbyn 7 Chwefror 2019.

Chwilio'r gofrestr

Dilys o:

06 Awst 2018 - 06 Awst 2019

Proffesiynau Cysylltiedig: