Skip to main content

Pam gwirio cofrestriad?

Mae'n bwysig fod gan bobl sy'n gweithio mewn iechyd a gofal yr hyfforddiant, sgiliau a'r gallu i drin cleision a defnyddwyr gwasanaeth yn dda. Mae rheolyddion a chofrestrau achrededig yn helpu cadw'r cyhoedd yn ddiogel trwy ‘gofrestru’ ymarferwyr iechyd a gofal. Mae hyn yn golygu eu bod yn gwirio fod ymarferwyr yn ddiogel i ymarfer ac yn rhoi eu henw ar restr, a elwir yn gofrestr, y gall pawb ei chwilio.

Mae cofrestrau ar gael ar wefannau'r naw rheolydd a'r cofrestrau achrededig. Gallwch ddefnyddio ein gwefan fel ‘porth’ i'r holl wefannau.

Gallwch weld sut i wirio isod:

I weld os yw rhywun ar gofrestr, byddwch angen gwybod proffesiwn neu alwedigaeth y sawl yr ydych chi eisiau ei wirio. Byddwch angen gwybod cyfenw neu rif cofrestru'r unigolyn.

Bydd hefyd angen gwybod ar ba gofrestr mae'r unigolyn. Rhaid i bobl yn gweithio mewn proffesiwn a reoleiddir fod ar un o gofrestrau'r rheoleiddiwr yn ôl y gyfraith. Os ydynt wedi eu rheoleiddio, defnyddiwch Chwilio am reolyddion. Defnyddiwch ein rhestr i weld pa alwedigaethau sydd wedi eu rheoleiddio.

Os nad ydynt wedi eu rheoleiddio, efallai eu bod wedi dewis cael eu cynnwys ar gofrestr achrededig i ddangos eu hymroddiad i ymarfer da. Mae hyn yn cynnwys pobl fel ymarferwyr iechyd cyhoeddus, cynghorwyr a nifer o wahanol therapyddion. Defnyddiwch Chwilio am gofrestrau achrededig.

Dylech wirio cofrestriad ymarferwr pan:

  • Fyddwch chi'n talu am wasanaethau preifat gan ymarferwr iechyd neu ofal
  • Fyddwch chi'n cyflogi ymarferwr iechyd neu ofal
  • Fyddwch chi'n comisiynu gwasanaethau gan ymarferwr iechyd neu ofal
  • Fydd gennych chi bryderon ynghylch ymarferwr.

Mae rheolyddion a chofrestrau achrededig yn rhoi gwybod ar eu gwefannau ynghylch sut i wirio eu cofrestrau. Gallwch wirio:

  • Os ydynt yn cael ymarfer
  • Os oes ganddynt gymhwyster priodol
  • Os yw'r rheolydd wedi dweud wrthynt am beidio gwneud rhywbeth
  • Os ydynt wedi eu ‘disgyblu’.

Defnyddiwch y botymau ar y dde am fynediad cyflym i gofrestrau rheolyddion a chofrestrau achrededig.