Mae'r Gymdeithas Seicotherapyddion Plant (ACP) yn gorff proffesiynol ar gyfer seicotherapyddion plant a glasoed seicdreiddiad yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ACP yn gyfrifol am safonau hyfforddi ac ymarfer ar gyfer ei aelodau ac mae’n darparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynghylch seicotherapi plant.
05 Gorffennaf 2018 - 05 Mehefin 2019
Mae'r Cymdeithas Cynghorwyr Cristnogol (ACC) yn gorff proffesiynol ac elusen gofrestredig yn cynrychioli cynghorwyr a seicotherapyddion Cristnogol yn y Deyrnas Unedig.
25 Mai 2018 - 25 Mai 2022
Mae Cymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) yn sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n gosod safonau ar gyfer ymarfer therapiwtig ac yn darparu gwybodaeth i therapyddion, cleientiaid therapi, a’r cyhoedd.
05 Mawrth 2018 - 05 Mawrth 2019
Mae'r Cymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain (BAPT) yn gweithio i liniaru anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef anawsterau emosiynol ac ymddygiadol trwy hyrwyddo celf a gwyddor Therapi Chwarae a hyrwyddo safonau uchel o ran ymarfer Therapi Chwarae.
01 Rhagfyr 2017 - 01 Rhagfyr 2018
Mae Cyngor Seicdreiddiad Prydain yn sefydliad proffesiynol i’r proffesiwn seicotherapi seicdreiddiad, gan gyhoeddi Cofrestr o ymarferwyr y mae’n ofynnol iddynt ddilyn ei god moeseg a bodloni ei safonau addasrwydd i ymarfer.
20 Tachwedd 2017 - 20 Tachwedd 2018
Mae COSCA – corff proffesiynol yr Alban ar gyfer cynghori a seicotherapi – yn gosod safonau ar gyfer ei gofrestryddion ar ymarfer cynghori a seicotherapi ac mae’n ymroddedig i gynyddu mynediad at wasanaethau cynghori a seicotherapi.
18 Mehefin 2018 - 18 Mehefin 2019
Mae'r Human Givens Institute yn sefydliad byd eang sy'n ymwneud ag uno'r dulliau mwyaf effeithiol o gynghori a seicotherapi i ymagwedd wirioneddol bioseicogymdeithasol. Mae'n annog pob agwedd o ymarfer therapiwtig Human Givens, gan gynnwys safonau, datblygiad proffesiynol parhaus ac ymddygiad moesegol aelodau.
12 Ebrill 2018 - 12 Ebrill 2019
Mae’r Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol yn sefydliad proffesiynol dielw gyda’r diben o sicrhau bod pob cofrestrydd yn ddiogel, cymwys a moesegol.
20 Mai 2018 - 20 Mai 2019
Mae Play Therapy UK yn bodoli i hybu arfer da gwaith therapiwtig gyda phlant. Mae hyn yn cynnwys gwella lles plant yn ogystal â lliniaru problemau ymddygiadol ac iechyd meddwl.
10 Ebrill 2018 - 10 Ebrill 2019
Mae Cymdeithas Ymarferwyr Seicoleg Ddyneiddiol y Deyrnas Unedig (UKAHPP) yn sefydliad proffesiynol, sy'n sefydlu safonau gofrestru ac achredu ar gyfer ymarfer i Seicotherapyddion a Chynghorwyr Seicotherapiwtig gyda hyfforddiant mewn Seicoleg Ddyneiddiol, ymagwedd holistig i therapi, ble mae gallu unigolyn i ddefnyddio adnoddau mewnol i roi ystyr a chyfeiriad i brofiadau bywyd sy'n drawmatig ac yn anablu yn ganolog.
06 Awst 2018 - 06 Awst 2019
Mae Cyngor Seicotherapi'r Deyrnas Unedig (UKCP) yn sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n cadw cofrestrau cenedlaethol ar gyfer seicotherapyddion sy’n gymwysedig i weithio gyda phlant a phobl ifanc a chynghorwyr seicotherapiwtig.
11 Tachwedd 2017 - 10 Tachwedd 2018