Skip to main content

Yn ganolog i bopeth a wnawn mae un diben syml: i ddiogelu'r cyhoedd rhag niwed

Rydym yn helpu diogelu'r cyhoedd trwy wella rheoleiddiad a chofrestriad pobl yn gweithio mewn iechyd a gofal trwy:

  • Adolygu gwaith rheolyddion gweithiwr iechyd a gofal
  • Achredu sefydliadau sy'n cofrestru ymarferwyr mewn galwedigaethau heb eu rheoleiddio
  • Rhoi cyngor ar bolisi i Weinidogion ac eraill ac annog ymchwil i wella rheoleiddio

Rydym yn gweithredu egwyddorion

 rheoleiddio cyffyrddiad cywir ym mhopeth a wnawn.

Rhagor o wybodaeth


Gwirio a chanfod

Gwiriwch os yw’ch ymarferydd wedi cofrestru neu gallwch hefyd chwilio am gofrestr neu reoleiddiwr achrededig

Hoffwn...

EWCH Beth yw cofrestr achrededig?
Beth yw rheolydd?

Ein gwaith gyda rheolyddion

Rydym yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal. Rydym yn adolygu eu perfformiad i weld sut maent yn diogelu’r cyhoedd.

Rydyn ni hefyd yn craffu eu penderfyniadau ynghylch os yw posibl ar y cofrestrau yn addas i ymarfer a gallwn apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn os ydyn ni'n credu eu bod yn annigonol i ddiogelu’r cyhoedd

Ein gwaith gyda chofrestrau achrededig

Rydym yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy’n cynnal cofrestrau gwirfoddol o bobl yn gweithio mewn galwedigaethau iechyd a gofal heb eu rheoleiddio, ac yn achredu’r sefydliadau sy’n bodloni ein safonau.

Mae’r rhaglen yn helpu pobl sy'n ceisio triniaeth nad yw wedi ei gynnwys yn y proffesiynau a reoleiddir i fynd am opsiwn gyda llai o risg a gwneud dewis gwybodus.

Gwella rheoleiddio 

Rydym eisiau esbonio ac archwilio rheoleiddio – rydym yn annog gwelliannau trwy rannu arfer da a gwybodaeth, cyflawni ymchwil a chyflwyno syniadau newydd, yn cynnwys ein cysyniad o reoleiddio cyffyrddiad cywir.

Rydym hefyd yn monitro datblygiadau polisi ac yn rhyngwladol ac yn darparu cyngor i lywodraethau ac eraill ar faterion yn ymwneud â phobl yn gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwaith presennol

Dysgwch fwy am ein hymchwil diweddaraf, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol neu'n hadolygiad perfformiad diweddaraf neu’r gofrestr achrededig ddiweddaraf.

Gallwch hefyd weld ein hamserlen ar gyfer rhannu eich profiad gyda ni i’n helpu i hysbysu ein hadolygiadau rheoleiddio ac ail achrediadau cofrestr.