Mae Tom Frawley CBE yn aelod o’r Bwrdd.
Ymunodd Tom â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Hyfforddai Graddedig yn 1971. Yn 1973 fe'i penodwyd yn Weinyddwr Uned yn Ysbyty Ulster, Dundonald ac yn ddiweddarach aeth ei yrfa yn y gwasanaeth iechyd ag ef i Ogledd a Gorllewin Belfast a Lisburn. Yn 1980 fe'i penodwyd yn Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth HSS Londonderry, Limavady a Strabane. Yn 1981 fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Gweinyddol ar Fwrdd Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Western, yn 31 oed, yr ieuengaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei benodi i swydd o'r fath, ac yn 1985, wedi gweithrediad Adroddiad Griffiths, fe'i penodwyd yn Rheolwr Cyffredinol y Bwrdd.
Daeth yn Ombwdsmon y Cynulliad a Chomisiynydd Gogledd Iwerddon ar gyfer Cwynion ym Medi 2000. Yn 2001, fel Ombwdsmon, gofynnodd Pwyllgor Safonau a Breintiau'r Cynulliad iddo fod yn Gomisiynydd dros dro ar gyfer Safonau yn y Cynulliad.
Yn 2004, etholwyd Tom gan ei gyd Ombwdsmyn yn Ewrop i'w cynrychioli fel Cyfarwyddwr Rhanbarth Ewrop y Sefydliad Ombwdsmyn Rhyngwladol ac yn aelod o Fwrdd y Byd sy'n goruchwylio gwaith byd eang y Sefydliad. Hefyd yn 2004, cafodd Tom ei benodi i Gyngor Cynghori Alumni Cymrodorion Eisenhower Philadelphia i gynrychioli ynys Iwerddon yn y fforwm hwnnw, swydd a ddaliodd tan 2008. Ym Medi 2006, derbyniodd Tom y wobr anrhydeddus gan Brifysgol Ulster o statws a theitl Athro Gwadd Arweinyddiaeth yn yr Ysgol Fusnes a'r Ysgol Rheoli Cyfrifyddu.
Yn Nhachwedd 2006, etholwyd Tom yn Ddirprwy Lywydd Bwrdd y Byd y Sefydliad Ombwdsmyn Rhyngwladol (IOI), swydd a ddaliodd tan Ragfyr 2012. Yn 2008, derbyniodd Tom CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Ymddeolodd Tom fel Ombwdsmon Gogledd Iwerddon ym Mawrth 2016