Skip to main content

Beth mae'r rheolyddion yn wneud 

Mae'r naw o reolyddion iechyd a gofal a oruchwylir gennym un ‘cofrestru’ gweithwyr iechyd a gofal yn gweithio mewn swyddi y mae'r Senedd wedi dweud y mae'n rhaid eu rheoleiddio. Er enghraifft, mae meddyg, nyrs, fferyllydd a pharafeddyg oll yn alwedigaethau a reoleiddir.

Mae cofrestr yn fwy na rhestr. Mae'n dangos fod y gweithwyr arni wedi eu hyfforddi'n briodol ac yn gymwys i fodloni holl safonau'r rheolydd. Mae'n drosedd i unrhyw un nad yw ar y cofrestrau hyn i weithio yn y galwedigaethau rheoledig hyn. Gallwch lawrlwytho rhestr o alwedigaethau rheoledig ar y dde.

Mae rheolyddion yn gwneud pedwar peth:

  • Gosod safonau cymhwyster ac ymddygiad y mae'n rhaid i weithwyr iechyd a gofal eu bodloni ei mwyn gallu cofrestru ac ymarfer
  • Gwirio ansawdd cyrsiau addysg a hyfforddiant i sicrhau eu bod yn rhoi'r sgiliau a gwybodaeth i'r myfyrwyr hyn i ymarfer yn ddiogel a chymwys
  • Cynnal cofrestr sy'n chwiliadwy i bawb
  • Ymchwilio i gwynion ynghylch pobl ar eu cofrestr a phenderfynu os dylid caniatáu iddynt barhau i ymarfer neu os dylid eu dileu oddi ar y gofrestr - naill ai oherwydd problemau yn ymwneud ag ymddygiad neu oherwydd eu cymhwyster.

Gallwch ddysgu mwy am eu gwaith a chwilio am weithiwr iechyd a gofal ar eu cofrestrau trwy ymweld â'n tudalen Chwilio am Reolydd.