Skip to main content

Datganiad Amgylcheddol 

Sylweddolwn y gall ein gwaith gael effaith negyddol ar yr amgylchedd ac rydym wedi ymrwymo i leihau’r effaith hon. Fel sefydliad bach, nid ydym yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaeth ffurfiol i gyrraedd Sero Net, ond rydym am chwarae ein rhan i gyfrannu at leihau allyriadau, cyrraedd targedau’r llywodraeth ar newid yn yr hinsawdd a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Pwyntiau allweddol ein dull o gyflawni hyn yw:

  • Gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus ac integreiddio arfer gorau yn y ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes.
  • Lleihau ein defnydd o adnoddau a gwella effeithlonrwydd y defnydd o'r adnoddau hyn.
  • Lleihau gwastraff a llygredd trwy werthuso ein gweithrediadau (gan gynnwys sicrhau bod glanhau swyddfeydd ac ailgylchu yn cael ei wneud gan gwmni carbon niwtral, gan ddefnyddio cyfryngau glanhau seiliedig ar blanhigion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd).
  • Rhoi ystyriaeth ddyledus i faterion amgylcheddol megis bioamrywiaeth a pherfformiad ynni wrth brynu, dylunio, adnewyddu, lleoli a defnyddio adeiladau a lleoliadau cyfarfod.
  • Sicrhau bod meini prawf amgylcheddol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, yn cael eu hystyried wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.
  • Cydymffurfio fel isafswm â'r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
  • Ceisio achrediad perthnasol i'n hymagwedd amgylcheddol.
  • Mabwysiadu dulliau teithio effaith isel lle bo hynny'n ymarferol.

Er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau, byddwn yn:

  • Monitro ein perfformiad amgylcheddol o leiaf unwaith y flwyddyn a chyhoeddi gwybodaeth berthnasol yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Ar gyfer adroddiad 2024/25 a thu hwnt bydd hwn yn cynnwys crynodeb o effaith amgylcheddol ein teithiau busnes.
  • Cyhoeddi’r datganiad hwn ar ein gwefan.
  • Cydweithio â’n pobl, darparwyr gwasanaethau, cyflenwyr, landlordiaid a’u hasiantau i hybu gwell perfformiad amgylcheddol.
  • Hyrwyddo ystyriaeth briodol o gynaliadwyedd a materion amgylcheddol i'r rhai yr ydym yn eu goruchwylio.
  • Bod yn ymwybodol o wybodaeth ac arfer gorau wrth weithredu fel sefydliad sy'n ymwybodol o'r amgylchedd.
  • Adolygu ein datganiad amgylcheddol yn flynyddol.