Rhyddid Gwybodaeth
Rydym eisiau bod mor agored â phosibl. Rydym yn croesawu hawliau mynediad i wybodaeth a sefydlir yn y Ddeddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Deddf Diogelu Data
Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn sicrhau ein bod yn gofalu am unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir gennym yn briodol. Mae hefyd yn rhoi hawl i chi ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn cynnwys sut i wneud cais yn ein Polisi Deddf Diogelu Data isod.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i chi ofyn am unrhyw gofnod o wybodaeth swyddogol nad yw amdanoch chi’n bersonol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, yn cynnwys sut i wneud cais, yn ein Polisi Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae canllaw i’r wybodaeth ar gael dan y Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.
Ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth blaenorol
Dengys ein Cofnod Datgeliad gofnod o'r dyddiadau pan rydym wedi datgelu gwybodaeth, y ceisiadau a wnaed i ni dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ei hymateb ac unrhyw gamau a gymerwyd.